Logos Multilingual Portal

Select Language



François Duc de La Rochefoucauld (1613 - 1680) 

French classical author. His Maximes (1665, fifth enlarged edition 1678) are terse, highly polished observations on human nature, which undermine the concept of disinterested virtue and the power of the will depicted by Corneille in his plays. La Rochefoucauld substitutes a pessimistic picture of man in which subconscious self-love lies behind every action. His views reflect the changing moral climate of the later 17th century, also seen in the work of Mme de La Fayette.

anghofiwn am ein beiau yn rhwydd pan nad oes neb ond ni\'n gwybod amdanynt
dim ond gan ddynion mawr y mae gwendidau
haws o lawer yw mygu chwant cyntaf na diwallu\'r rhai sy\'n dilyn
mae gennym i gyd ddigon o nerth i ddioddef anffodion pobl eraill
mae\'n fwy o gywilydd i ddyn beidio ag ymddiried yn ei gyfeillion nag iddo gael ei dwyllo ganddynt
mae\'r sawl na all garu hyd yn oed yn fwy truenus na\'r sawl nad oes neb yn ei garu
math o anniolchgarwch yw gormod o frys i dalu cymwynas yn ôl
mewn cyfeillgarwch, fel mewn cariad, yn aml mae dyn yn hapusach oherwydd yr hyn na ŵyr nag oherwydd yr hyn a ŵyr
ni fydd y drwg a wnawn yn peri cymaint o gasineb ac o elyniaeth ag y bydd ein gweithredoedd da
nid oes yr un angerdd lle y teyrnasa hunangariad mor gryf â bod mewn cariad; mae dyn wastad yn barotach i aberthu llonyddwch y sawl a garo nag i golli ei eiddo ei hun
rhagrith yw gwrogaeth a delir gan fai i rinwedd
y ffordd orau i ddyn ei dwyllo ei hun yw drwy gredu ei fod yn fwy cyfrwys nag eraill
yn aml byddai cywilydd arnom rhag ein gweithredoedd llawn bwriadau da, pe gallai eraill weld beth a oedd yn eu cymell
yn aml gwnawn dda fel y gallwn wneud drwg wedyn, heb gael ein cosbi
yr hyn sy\'n gwneud balchder pobl eraill yn annioddefol inni yw ei fod yn clwyfo ein balchder ein hunain